On the day that Kirsty Williams launched her Manifesto for change Councillor Edward Townsend - Deputy Leader of Newport City Council and Candidate for Newport East is Kirsty’s supporter of the day.
Cllr Ed Townsend says:
“I asked myself a simple question before backing Kirsty Williams as our next leader: “Who would our opponents least like to see leading our party?” We cannot be satisfied with six AMs and just four MPs.
“If we are to make a mark on Wales, then we have to surprise a few people with what we do. Our campaigning has to gain an edge that makes our opponents fear us.
“The next stage in our party’s development will need drive, enthusiasm, credibility, political acumen and the ability to speak sheer common sense. Kirsty has all of those qualities - and she is the one Labour, Conservative and Plaid Cymru politicians most definitely don’t want to see winning.
“We need a leader with the determination, vision and passion to take us to the next level. Kirsty will inspire our activists and make sure we take the fight to the other parties and win.
“That is why I’m backing her to be the next leader of the Welsh Liberal Democrats.”
Mae’r Cynghorydd Edward Townsend (Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Ymgeisydd Dwyrain Casnewydd) yn cefnogi Kirsty…
“Gofynnais gwestiwn syml i fy hun cyn cefnogi Kirsty Wiliams fel ein harweinydd nesaf: “Pwy fyddai dewis olaf ein gwrthwynebwyr i arwain ein plaid?” Ni allwn fod yn fodlon gyda chwe Aelod o’r Cynulliad a dim ond pedwar Aelod Seneddol.
“Os ydyn ni am wneud argraff ar Gymru, mae’n rhaid i ni gymryd camau sy’n synnu rhai pobl. Mae angen min ar ein hymgyrchu sy’n codi ofn ar ein gwrthwynebwyr.
“Ar gyfer y cam nesaf yn natblygiad ein plaid, bydd angen ymroddiad, brwdfrydedd, hygrededd, craffter gwleidyddol a’r gallu i siarad synnwyr cyffredin pur. Mae’r rhinweddau hynny i gyd gan Kirsty, a heb os, hi yw’r un mae gwleidyddion Llafur, Ceidwadol a Phlaid Cymru yn gobeithio na fydd yn ennill.
“Mae angen arnom arweinydd sydd â’r hunan benderfyniad, gweledigaeth a’r nwyd i’n harwain i’r lefel nesaf. Bydd Kirsty yn ysbrydoli ein hymgyrchwyr ac yn sicrhau ein bod yn gallu brwydro yn erbyn y pleidiau eraill ac ennill.
“Dyna’r rheswm rwy’n ei chefnogi i fod yn arweinydd nesaf Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.”
Tags: Press Releases by admin
No Comments »